If I Must Die...

os bu rhaid i mi farw

Translated to Welsh by

os bu rhaid i mi farw,

rhaid i ti fyw

i ddweud fy stori

i werthu fy mhethau

i brynnu darn o frethyn

a chydig o linyn,

(gwna fo'n wyn â chynffon hir)

fel bod plentyn, rhywle yn Gaza

tra'n edrych drwy lygaid y nefoedd

yn aros am ei dad a adawodd mewn tân

a ffarweliodd a neb,

nid hyd yn oed ei gnawd

nid hyd yn oed iddo'i hun-

yn gweld y barcud, fy marcud a wnest ti, yn hedfan uwchben

a'n meddwl am eiliad fod angel yno yn dod â chariad yn ôl

os bu rhaid i mi farw

gad iddo ddod â gobaith

gad iddo fod yn chwedl


Select poem translation

A poem by Refaat Alareer.